Newyddion am y Project
Mai 2019
Yn ddiweddar, fe ddathlodd tîm SNAP Prifysgol Bangor Ddiwrnod UE gyda chydweithwyr eraill o Ysgol Gwyddorau'r Eigion ar fwrdd y Mare Gratia.
Ebrill 2019
Mae system stoc deor SNAP wedi croesawu ei physgod cyntaf, ar fenthyg gan ZSL! Maent wedi ymgartrefu'n dda ac rydym yn gobeithio y byddant yn silio yn fuan.
Rhagfyr 2018
Mae tîm SNAP Prifysgol Bangor wedi cyfarfod criw SEA LIFE Loch Lomond sy'n cymryd rhan yn SNAP. Diolch am y croeso a mwynhewch ddylunio a phrofi eich casglwyr wyau!
Tachwedd 2018
Bu tîm SNAP Prifysgol Bangor yn cynnal gweithdai casglu wyau yn SEA LIFE Brighton a SEA LIFE Adventure Park yn Weymouth. Diolch am y croeso!
Diolch i'n partneriaid yn The Deep am drefnu a chynnal gweithdy casglu wyau yn Hull y mis yma. Roedd hi'n braf bod cynrychiolydd yno ar ran pob un o bartneriaid SNAP.
Hydref 2018
Ar y ffordd eto! Rydym wedi bod yn cwrdd â phartneriaid prosiect y National SEA LIFE Centre yn Birmingham ac yn y SEA Life Sanctuary yn Hunstanton.
Yr wythnos diwethaf mynychodd tîm SNAP Gynhadledd Undeb Ewropeaidd Curaduron Acwariwm a gynhalir gan The Deep yn yr heulog Hull. Roedd yn gynhadledd wych gyda nifer o gyflwyniadau diddorol ac amrywiol. Cafodd ein poster i gyflwyno SNAP dderbyniad da hefyd!
Newydd gael ein cyfarfod diwedd y chwarter cyntaf. Tri mis yn barod! Er gwaetha'r tywydd gwael, cynhaliwyd cyfarfod diddorol a chynhyrchiol gyda'n partneriaid prosiect. Un pwnc hynod gyffrous a drafodwyd oedd dewis rhywogaethau.
Medi 2018
Teithiodd rhai o aelodau tîm SNAP Prifysgol Bangor i dde Lloegr i ymweld â'n partneriaid yn acwariwm LEGOLAND Windsor Resort a SEA LIFE London Aquarium i siarad am gasglu wyau. Roedd hi'n wych cael cyfle i gwrdd â phawb ac rydym yn edrych ymlaen at weithio â chi.
Awst 2018
SustaiNable Aquariums Project kick off meeting at Bangor University (left to right: Tom Galley (BU), Nick Jones (BU), Graham Hill (The Deep), Jon King(BU), Jean-Denis Hibbitt (SEA LIFE), Tudur Williams (BU), Patrick Lehane (BU), Brian Zimmerman (ZSL)).