Noddwyr a Phartneriaid y Project
Noddwyr y Project
Caiff SNAP ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop trwy raglen SMARTExpertise Llywodraeth Cymru 2014 - 2020. Mae SMARTExpertise yn rhan o gyfres o raglenni integredig ERDF a ariennir i gefnogi busnesau a sefydliadau ymchwil Cymru i fasnacheiddio cynhyrchion, prosesau a gwasanaethau newydd a ddatblygir trwy brosesau ymchwil, datblygu ac arloesi.
Partneriaid y Project
Project ar y cyd yw SNAP. cafodd ei ddatblygu gan The Deep, SEA LIFE, Cymdeithas Sŵolegol Llundain a CAMS. Mae'r project hwn yn cyfuno arbenigedd nifer o sefydliadau profiadol sy'n ymwneud â hwsmonaeth pysgod ac ymchwilwyr dyframaethu i ddatblygu'r wybodaeth, y technegau a'r dechnoleg angenrheidiol i ddatblygu dyframaeth pysgod cwrel.