Croeso

Mae bridio anifeiliaid dyfrol yn wyddoniaeth gymhleth iawn ac mae penderfynu ar y diet a'r amgylchedd cywir i alluogi pysgod larfaol i ddatblygu'n oedolion yn arbennig o heriol.  Mae larfa llawer o rywogaethau pysgod trofannol mor fach, maent yn anweledig i'r llygad noeth, ac mae eu ffynhonnell fwyd hyd yn oed yn fwy microsgopig. Gan fod rhywogaethau dyfrol y byd yn wynebu bygythiadau cynyddol oherwydd newid yn yr hinsawdd, gorbysgota, llygredd a'r fasnach bywyd gwyllt anghyfreithlon, mae ymchwil yn hanfodol er mwyn cynyddu gwybodaeth a’r gallu i fridio. Mae’r ymchwil hwn yn anodd yn y gwyllt felly mae'r acwaria yn llwyfan ymchwil defnyddiol iawn.

 

Oherwydd eu harbenigedd a'u hadnoddau, mae ceidwaid pysgotai o dimau acwariwm blaenllaw'r DU yn arwain y ffordd o ran gwella dulliau bridio i gynyddu dealltwriaeth fyd-eang o anifeiliaid y môr a'u cylchoedd bridio, ac yn y pen draw, cefnogi'r ymdrechion cadwraeth byd-eang i weithredu yn erbyn masnachu pysgod a bywyd dyfrol arall yn anghyfreithlon.  Mae ZSL, The Deep, SEA LIFE, ac Ysgol Gwyddorau'r Eigion Prifysgol Bangor yn gweithio ar raglen ymchwil newydd a phwysig i wella llwyddiant bridio mewn acwaria - y SustaiNable Aquarium project (SNAP), a gaiff ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy'r Rhaglen SMARTExpertise Llywodraeth Cymru.

 

Bydd 20 o rywogaethau i ddechrau- sy'n allweddol i iechyd riffiau cwrel ond sydd heb eu magu'n llwyddiannus mewn acwaria hyd yma - yn ganolbwynt cychwynnol y project. Mae cwrelau yn rhan o ecosystem drofannol fregus ac maent angen pysgod trofannol penodol i ffynnu, yn cynnwys rhywogaethau o fôrlöynnod, cwningod môr, gwrachod y môr a ffleimbysgod.  Bydd projectau fel SNAP yn hyrwyddo technegau dyframaethu ac yn helpu i gryfhau rhywogaethau morol sydd dan fygythiad neu mewn perygl. Byddant hefyd yn tynnu sylw at yr ymwybyddiaeth gyffredinol bod gan acwaria rôl bwysig i'w chwarae yn y dyfodol wrth warchod ein moroedd.