Cwrdd â’r Tîm

Prifysgol Bangor

Mae Dr Jon King yn Ddarllenydd mewn Bioleg y Môr ym Mhrifysgol Bangor. Mae ganddo dros 25 mlynedd o brofiad o ymchwil fasnachol a chymhwysol mewn ecoleg forol, datblygu technegau dyframaethu, gan gynnwys systemau ailgylchu ar raddfa beilot, cynaliadwyedd ac effeithiau ecolegol ffermio pysgod cregyn gan gynnwys rhywogaethau diwylliannol anfrodorol, cynnal amrywiad genetig wrth ailstocio wystrys brodorol, dyframaethu yn y môr a'i gydleoli â safleoedd ynni adnewyddadwy.

Mae'r Dr Nick Jones yn Swyddog Ymchwil yn CAMS Prifysgol Bangor. Ers ymuno â CAMS yn 2011, mae Nick wedi bod yn rhan o amrywiaeth o brojectau ymchwil dyframaeth, gan gynnwys rhai sy'n datblygu cadwraeth a thechnegau dyframaethu cynaliadwy o fagu rhywogaethau pysgod morol. Mae Nick hefyd wedi gweithio yn y sector manwerthu dyfrol, fel Uwch-acwarydd mewn acwariwm cyhoeddus ac fel Uwch-arolygydd Ystafell Larfaol mewn deorfa bysgod fasnachol.

Mae'r Dr Tom Galley yn Swyddog Ymchwil yn CAMS Prifysgol Bangor. Mae ganddo dros 10 mlynedd o brofiad mewn ymchwil dyframaethu morol tymherus a throfannol, gydag amrywiol rywogaethau megis dwygifaliaid, pysgod cregyn a physgod. Mae hynny wedi cynnwys gwaith ar ddatblygu a hybu technegau a thechnolegau larfaol ac ifanc, gan asesu effaith hwsmonaeth a pharamedrau amgylcheddol, yn ogystal ag ymchwil ar ddatblygu larfau a maethiad.

Mae Max Austin yn Swyddog Cefnogi Projectau Ymchwil ym Mhrifysgol Bangor sydd wedi dilyn gyrfa mewn projectau cadwraeth cymunedol ac yn y sector dyframaethu ehangach. Mae ei frwdfrydedd dros gadwraeth wedi ei arwain i gynnal arolygon o forfeirch yn Sbaen, ymchwilio i effeithiau meysydd electromagnetig ar grancod bwytadwy yn yr Alban, a rheoli magwraeth rhywogaeth endemig o clownfish yn llwyddiannus i’w hailgyflwyno i riffiau oddi ar ynysoedd y Maldives.

Patrick Lehane yw Cyfrifydd y Project SNAP, ac mae'n rhan o Swyddfa Ymchwil a Menter Prifysgol Bangor.

Partneriaid Diwydiannol

ZSL (Cymdeithas Sŵolegol Llundain)

Mae Samantha Guillaume Slatter yn gweithio yn ZSL er 2006. Arferai arbenigo mewn bridio a datblygu hwsmonaeth rhywogaeth y morfarch brodorol a bellach mae’n canolbwyntio ar reoli rhywogaethau pysgod dŵr croyw sydd mewn perygl difrifol caethiwed. Yn y rôl sydd ganddi yn ZSL, bu'n ceisio sicrhau bod poblogaethau cynaliadwy o bysgod mewn acwaria cyhoeddus a’u bod yn cael eu rheoli'n dda a sicrhau eu bod yn cyfrannu at gadwraeth y rhywogaethau dyfrol.  

The Deep

Graham Hill yw Pennaeth Gofal Anifeiliaid ac Ymchwil yn The Deep Aquarium yn Hull. Ymunodd â The Deep yn 2001, a bu'n gyfrifol am ofal milfeddygol yr anifeiliaid a chydlynu projectau ymchwil a chadwraeth. Bu'n gweithio gyda phrifysgolion a sefydliadau cadwraeth forol. Mae wedi helpu datblygu projectau ymchwil megis tracio Morgathod yn Sudan gydag Equipe Cousteau, Lopehlia casglu cwrel gyda BP a hyrwyddo gwyddoniaeth filfeddygol yr acwaria.

SEA LIFE

Chris Brown yw Pennaeth Cadwraeth, Lles ac Ymgysylltu UK SEA LIFE. Mae’n gweithio ers dros 20 mlynedd gydag acwaria cyhoeddus ledled y byd, yn bridio, magu a chludo amrywiol rywogaethau. Yn 2020 dychwelodd o secondiad 2 flynedd fel Curadur yn Acwariwm SEA LIFE Sydney ar ôl sefydlu nifer o raglenni cadwraeth, ymchwil a bridio gan gynnwys achub siarcod nyrsys llwyd gwyllt sydd mewn perygl difrifol a bridio morfeirch brodorol White.

Mae Riaan Boshoff wedi bod yn guradur yn Deep Sea Adventure Legoland Windsor ers tair blynedd. Cyn hynny roedd yn Rheolwr Casgliadau ac Eitemau yn uShaka Seaworld Cymdeithas Ymchwil Fiolegol y Môr yn Ne Affrica lle treuliodd 10 mlynedd yn casglu, mewnforio a chludo anifeiliaid ar gyfer yr Acwariwm. Mae wedi bod yn deifio ers 22 mlynedd, mae'n gapten cymwysedig o longau hyd at 40 tunnell ac mae ei brofiad blaenorol yn cynnwys ychydig flynyddoedd fel technegydd gwyddonol yn yr Oceanographic Research Institute (ORI) yn Durban ac yn Geidwad y Môr ar gyfer Parciau Cenedlaethol De Affrica (SANParks) wedi'i leoli yn Cape Town.